PET(4) SAR 01

 

Y Pwyllgor Deisebau

Ymgynghoriad ar ddeiseb P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

 

Ymateb gan yParchedig Gwynn ap Gwilym

 

Annwyl Syr/Madam

 

Carwn gefnogi’r ddeiseb isod:

 

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i argymell na ddylai’r lluoedd arfog fynd i ysgolion i recriwtio. Prydain yw'r unig wlad yn yr Undeb Ewropeaidd sy’n caniatáu presenoldeb milwrol yn ei hysgolion. O 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd, Prydain yw'r unig wlad sy'n recriwtio plant 16 oed i'r lluoedd arfog. Mae'r lluoedd arfog yn targedu ysgolion ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wrth recriwtio.

 

Yr wyf yn poeni’n fawr bod y lluoedd arfog

 

·         yn cael cyfle i roi cyngor gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru

·         yn rhoi cyngor gyrfaoedd i blant mewn ardaloedd yng Nghymru lle y mae gyrfaoedd yn brin;

·         yn rhoi camargraff i blant o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig heb ddadlennu mai’r gwir bwrpas yw hyfforddi at ladd a niweidio pobl.

 

Fe’m haddysgwyd i mewn ysgol yng Nghanolbarth Cymru lle’r oedd y prifathro bob amser yn gwrthod caniatâd i’r lluoedd arfog roi troed ar dir yr ysgol. Yr wyf bob amser wedi ei edmygu am hynny ac fe hoffwn weld pob plentyn yng Nghymru yn cael ei warchod, fel y cefais i a’m cyd-ddisgyblion, rhag propaganda’r Fyddin, y Llynges a’r Llu Awyr.

 

Yr eiddoch yn gywir

 

Y Parchedig Gwynn ap Gwilym